Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i roi diwedd ar Gam-drin Domestig drwy ei drin fel ffenomenon cyffredin ir ddau ryw ac yn ffenomenon dynol lle y bydd llawer o ddynion a menywod yn dioddef cymaint âi gilydd ac yr un mor gyfrifol âi gilydd amdano.
Rhaid bod yn ymarferol, NID yn wleidyddol
Maer cynnig cyfredol yn beio dynion, a dynion yn unig, am bob trais ac yn rhoi blaenoriaeth i ragfarn ar sail rhywedd o flaen gwir anghenion menywod, dynion a phlant a phle nad yw 97 y cant o ddynion yn ffitior proffil hwn.
Ni chafwyd anghydweld agored a llafar yn hyn o beth yng Nghymru oherwydd diffyg cyhoeddusrwydd ac ofni ôl-effeithiau.
Maer ddeiseb hon yn cynnig dull gweithredu amgen syn cydnabod bod dynion a menywod yn gyfrifol am 86 y cant o gam-drin domestig. Mae hefyd yn cynnig mwy o amddiffyniad i blant ac yn cael gwared ar y gwahaniaethu syn digwydd dim ond oherwydd rhagfarn radical ar sail rhyw yn erbyn y bobl hynny sydd mewn perthnasoedd benywaidd or un rhyw.
Prif ddeisebydd: Healing Men
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 11 Mawrth 2014
Nifer y llofnodion: 238